RHAN 3ARDOLL YMWELWYR
PENNOD 1CYMHWYSO A GWEITHREDU’R ARDOLL, A CHYFRADDAU’R ARDOLL
Cyfraddau’r ardoll
32Cyfraddau’r ardoll
(1)
Mae cyfraddau’r ardoll fel a ganlyn—
(a)
y gyfradd is yw £0.75, a
(b)
y gyfradd uwch yw £1.30,
ond mae hyn yn ddarostyngedig i unrhyw swm ychwanegol y gellir ei ychwanegu gan brif gyngor (gweler adran 34).
(2)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (1)(a) neu (b) i osod swm y naill neu’r llall o’r cyfraddau a ganlyn, neu’r ddwy—
(a)
cyfradd is yr ardoll;
(b)
cyfradd uwch yr ardoll.