RHAN 3LL+CARDOLL YMWELWYR

PENNOD 1LL+CCYMHWYSO A GWEITHREDU’R ARDOLL, A CHYFRADDAU’R ARDOLL

Cymhwyso a gweithredu’r ardollLL+C

30Atebolrwydd am dalu’r ardollLL+C

(1)Y person sy’n atebol am dalu’r ardoll ar arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr yw’r darparwr llety ymwelwyr.

(2)Mae atebolrwydd am dalu’r ardoll ar arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr yn codi pan‍ (a’r arhosiad dros nos wedi digwydd) fo’r hawlogaeth o dan y contract i breswylio yn y llety yn dod i ben.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 30 mewn grym ar 19.9.2025, gweler a. 67(1)