RHAN 3ARDOLL YMWELWYR

PENNOD 1CYMHWYSO A GWEITHREDU’R ARDOLL, A CHYFRADDAU’R ARDOLL

Cymhwyso a gweithredu’r ardoll

30Atebolrwydd am dalu’r ardoll

(1)

Y person sy’n atebol am dalu’r ardoll ar arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr yw’r darparwr llety ymwelwyr.

(2)

Mae atebolrwydd am dalu’r ardoll ar arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr yn codi pan‍ (a’r arhosiad dros nos wedi digwydd) fo’r hawlogaeth o dan y contract i breswylio yn y llety yn dod i ben.