RHAN 3ARDOLL YMWELWYR

PENNOD 1CYMHWYSO A GWEITHREDU’R ARDOLL, A CHYFRADDAU’R ARDOLL

Cymhwyso a gweithredu’r ardoll

29Arosiadau dros nos mewn llety ymwelwyr

(1)

At ddibenion y Rhan hon, mae arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr yn digwydd—

(a)

os oes gan un neu ragor o bobl hawlogaeth, o dan gontract, i breswylio‍ am un neu ragor o nosweithiau mewn llety ymwelwyr mewn mangre yn ardal prif gyngor sydd wedi cyflwyno’r ardoll,

(b)

os darperir y llety i’r bobl hynny yng nghwrs masnach neu fusnes a gynhelir gan y darparwr llety ymwelwyr,

(c)

os nad yw’r llety yn unig breswylfa neu’n brif breswylfa unrhyw un neu ragor o’r bobl hynny, a

(d)

os yw unrhyw un neu ragor o’r bobl hynny yn mynd i mewn i’r llety yn unol â’r contract.

(2)

Ond nid yw arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr yn digwydd—

(a)

os yw’r contract yn rhoi hawlogaeth i un neu ragor o unigolion penodol i breswylio yn y llety ymwelwyr (pa un ai ag unrhyw berson arall ai peidio), a bod gan bob unigolyn penodol hawlogaeth o dan y contract i breswylio yno—

(i)

am fwy nag 31 o nosweithiau (pa un a yw’r nosweithiau hynny yn olynol ai peidio), a

(ii)

pob noson y mae’r contract yn rhoi hawlogaeth i breswylio yn y llety hwnnw;

(b)

os yw’r llety—

(i)

wedi ei drefnu gan, neu wedi ei ddarparu ar ran, prif gyngor (fel awdurdod tai lleol) o dan Ran 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7) (digartrefedd);

(ii)

wedi ei ddarparu o dan adran 4 (llety) neu o dan Ran 6 (cymorth i geiswyr lloches, etc.) o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999 (p. 33);

(iii)

wedi ei ddarparu ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol mewn cysylltiad â gofyniad a osodir o dan adran 3(6) (darpariaethau cyffredinol) o Ddeddf Mechnïaeth 1976 (p. 63);

(iv)

wedi ei ddarparu o dan Ran 1 (trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau prawf) o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007 (p. 21) at y dibenion prawf (o fewn ystyr “the probation purposes” yn adran 1 o’r Ddeddf honno);

(v)

yn ymwneud â chyfleusterau a ddarperir o dan baragraff 9 o Atodlen 10 (mechnïaeth mewnfudo) i Ddeddf Mewnfudo 2016 (p. 19) ar gyfer lletya person mewn cyfeiriad a bennir mewn amod mechnïaeth mewnfudo.

(3)

Yn yr adran hon, nid yw “contract” yn cynnwys contract gwasanaeth, contract prentisiaeth, na chontract am wasanaethau y mae person sydd â hawlogaeth i breswylio yn y llety ymwelwyr yn darparu gwasanaethau odano i’r darparwr llety ymwelwyr.

(4)

Y darparwr llety ymwelwyr, mewn cysylltiad ag arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr, yw’r darparwr llety ymwelwyr—

(a)

sy’n darparu’r llety y mae’r arhosiad yn digwydd ynddo, a

(b)

sy’n feddiannydd ar y fangre lle y darperir y llety hwnnw.

(5)

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r adran hon at ddibenion ychwanegu, dileu neu newid disgrifiadau o amgylchiadau pryd y mae arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr yn digwydd neu pryd nad yw arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr yn digwydd.

(6)

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch ffyrdd y caniateir profi na ddigwyddodd arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr oherwydd bod y llety yn dod o fewn is-adran (2)(b), gan gynnwys darpariaeth ynghylch—

(a)

dogfennau neu wybodaeth arall y gellir dibynnu arnynt neu arni i brofi na ddigwyddodd arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr;

(b)

gwneud trefniadau ar gyfer dyroddi talebau y gellir eu defnyddio i brofi na ddigwyddodd arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr, ac mewn perthynas â dyroddi talebau o’r fath.