RHAN 2COFRESTR O DDARPARWYR LLETY YMWELWYR

Darpariaethau atodol

26Cofrestru: pwerau i wneud darpariaeth bellach neu ddarpariaeth wahanol

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch y gofrestr a gofynion cofrestru, gan gynnwys (ymysg pethau eraill) ddarpariaeth—

(a)

ynghylch gwybodaeth y mae rhaid ei chynnwys yn y gofrestr neu na chaniateir ei chynnwys yn y gofrestr;

(b)

sy’n ei gwneud yn ofynnol cyhoeddi gwybodaeth, neu’n gwahardd cyhoeddi gwybodaeth, sydd—

(i)

wedi ei chynnwys yn y gofrestr, a

(ii)

o fath a bennir yn y rheoliadau;

(c)

sy’n esemptio person rhag y gofyniad i roi hysbysiad o dan adran 9(1) mewn perthynas â gwybodaeth o fath a bennir yn y rheoliadau;

(d)

ynghylch cosbau o dan y Rhan hon, gan gynnwys darpariaeth—

(i)

sy’n newid swm cosb;

(ii)

sy’n newid sut y caiff cosb ei chyfrifo;

(iii)

ynghylch y weithdrefn ar gyfer asesu cosbau;

(e)

o ran pa benderfyniadau gan ACC sy’n ddarostyngedig i adolygiad neu apêl neu nad ydynt yn ddarostyngedig i adolygiad neu apêl.

(2)

Caiff rheoliadau o dan yr adran hon ddiwygio—

(a)

y Ddeddf hon;

ac mae cyfeiriadau yn yr adran hon at “a bennir yn y rheoliadau” yn cynnwys cyfeiriad at “a bennir mewn diwygiad a wneir gan y rheoliadau”.