(1)Yn y Ddeddf hon, ystyr “llety ymwelwyr” yw—
(a)llety mewn gwesty, tŷ llety neu lety gwely a brecwast, neu lety tebyg arall;
(b)llety mewn hostel ieuenctid neu mewn byncws, neu lety tebyg arall;
(c)llain neu ardal—
(i)a ddarperir ar gyfer gwersylla;
(ii)a ddarperir ar gyfer cartref symudol nad yw wedi ei leoli’n barhaol neu’n lled-barhaol mewn un lle;
(d)llety (heblaw llety a grybwyllir ym mharagraff (c)) mewn parc gwyliau neu ganolfan wyliau, neu mewn lle arall tebyg;
(e)llety (heblaw llety a grybwyllir yn y paragraffau blaenorol)—
(i)mewn cartref symudol, llestr neu gerbyd arall sydd wedi ei leoli neu ei lleoli’n barhaol neu’n lled-barhaol mewn un lle, a
(ii)sydd wedi ei gynnig (pa un ai yn barhaol neu o bryd i’w gilydd), ar sail tymor byr, at ddibenion teithio busnes neu deithio hamdden neu deithiau addysgol;
(f)llety hunanddarpar (heblaw llety a grybwyllir yn y paragraffau blaenorol) sydd wedi ei gynnig (pa un ai yn barhaol neu o bryd i’w gilydd), ar sail tymor byr, at ddibenion teithio busnes neu deithio hamdden neu deithiau addysgol;
(g)unrhyw fath arall o lety sydd wedi ei gynnig (pa un ai yn barhaol neu o bryd i’w gilydd), ar sail tymor byr, at ddibenion teithio busnes neu deithio hamdden neu deithiau addysgol.
(2)Ond nid yw llety a ddisgrifir yn is-adran (1) yn llety ymwelwyr os yw—
(a)ar safle Sipsiwn a Theithwyr;
(b)yn llain neu’n ardal a ddarperir ar gyfer cartref symudol, llestr neu gerbyd arall sydd wedi ei leoli neu ei lleoli’n barhaol neu’n lled-barhaol mewn un lle;
(c)mewn cartref symudol, llestr neu gerbyd arall nad yw wedi ei leoli neu ei lleoli’n barhaol neu’n lled-barhaol mewn un lle.
(3)At ddibenion is-adran (1), cynigir llety ar sail tymor byr os yw’r darparwr llety ymwelwyr yn cynnig darparu’r llety ar gyfer arosiadau o 31 o nosweithiau neu lai na hynny (ac at y diben hwnnw, nid oes gwahaniaeth a yw’r nosweithiau yn olynol).
(4)Yn yr adran hon—
ystyr “cartref symudol” (“mobile home”) yw unrhyw strwythur a ddyluniwyd neu a addaswyd i bobl fyw ynddo ac sy’n gallu cael ei symud o’r naill le i’r llall (pa un ai drwy ei dynnu neu drwy ei gludo ar gefn cerbyd modur neu ôl-gerbyd) ac unrhyw gerbyd modur a ddyluniwyd neu a addaswyd i bobl fyw ynddo, ond nid yw’n cynnwys—
pabell;
cerbydau rheilffyrdd sydd am y tro ar gledrau sy’n ffurfio rhan o system reilffyrdd;
awyren;
llestr;
ystyr “safle Sipsiwn a Theithwyr” (“Gypsy and Traveller site”) yw tir a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i osod cartrefi symudol arno sy’n rhoi llety i’r canlynol—
pobl sy’n arfer ffordd nomadig o fyw, beth bynnag fo’u hil neu eu tarddiad, gan gynnwys—
pobl sydd, ar sail eu hanghenion addysg neu eu henaint eu hunain, neu anghenion addysg neu henaint eu teulu neu ddibynnydd, ac ar y sail honno yn unig, wedi rhoi’r gorau i deithio dros dro neu yn barhaol;
aelodau o grŵp trefnedig o siewmyn teithiol neu bersonau sy’n rhan o syrcasau teithiol (pa un a ydynt yn cyd-deithio mewn grŵp o’r fath ai peidio);
unrhyw bobl eraill sydd â thraddodiad diwylliannol o nomadiaeth neu o fyw mewn cartref symudol.
(5)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r adran hon er mwyn—
(a)darparu bod, neu nad yw, math o lety, neu lety o ddisgrifiad penodol (gan gynnwys llety a ddarperir mewn mangre o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau), yn llety ymwelwyr;
(b)amrywio’r disgrifiad o fath o lety.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 2 mewn grym ar 19.9.2025, gweler a. 67(1)