RHAN 1TROSOLWG O’R DDEDDF A THERMAU ALLWEDDOL A DDEFNYDDIR YN Y DDEDDF
Termau allweddol
2Llety ymwelwyr
(1)
Yn y Ddeddf hon, ystyr “llety ymwelwyr” yw—
(a)
llety mewn gwesty, tŷ llety neu lety gwely a brecwast, neu lety tebyg arall;
(b)
llety mewn hostel ieuenctid neu mewn byncws, neu lety tebyg arall;
(c)
llain neu ardal—
(i)
a ddarperir ar gyfer gwersylla;
(ii)
a ddarperir ar gyfer cartref symudol nad yw wedi ei leoli’n barhaol neu’n lled-barhaol mewn un lle;
(d)
llety (heblaw llety a grybwyllir ym mharagraff (c)) mewn parc gwyliau neu ganolfan wyliau, neu mewn lle arall tebyg;
(e)
llety (heblaw llety a grybwyllir yn y paragraffau blaenorol)—
(i)
mewn cartref symudol, llestr neu gerbyd arall sydd wedi ei leoli neu ei lleoli’n barhaol neu’n lled-barhaol mewn un lle, a
(ii)
sydd wedi ei gynnig (pa un ai yn barhaol neu o bryd i’w gilydd), ar sail tymor byr, at ddibenion teithio busnes neu deithio hamdden neu deithiau addysgol;
(f)
llety hunanddarpar (heblaw llety a grybwyllir yn y paragraffau blaenorol) sydd wedi ei gynnig (pa un ai yn barhaol neu o bryd i’w gilydd), ar sail tymor byr, at ddibenion teithio busnes neu deithio hamdden neu deithiau addysgol;
(g)
unrhyw fath arall o lety sydd wedi ei gynnig (pa un ai yn barhaol neu o bryd i’w gilydd), ar sail tymor byr, at ddibenion teithio busnes neu deithio hamdden neu deithiau addysgol.
(2)
Ond nid yw llety a ddisgrifir yn is-adran (1) yn llety ymwelwyr os yw—
(a)
ar safle Sipsiwn a Theithwyr;
(b)
yn llain neu’n ardal a ddarperir ar gyfer cartref symudol, llestr neu gerbyd arall sydd wedi ei leoli neu ei lleoli’n barhaol neu’n lled-barhaol mewn un lle;
(c)
mewn cartref symudol, llestr neu gerbyd arall nad yw wedi ei leoli neu ei lleoli’n barhaol neu’n lled-barhaol mewn un lle.
(3)
At ddibenion is-adran (1), cynigir llety ar sail tymor byr os yw’r darparwr llety ymwelwyr yn cynnig darparu’r llety ar gyfer arosiadau o 31 o nosweithiau neu lai na hynny (ac at y diben hwnnw, nid oes gwahaniaeth a yw’r nosweithiau yn olynol).
(4)
Yn yr adran hon—
ystyr “cartref symudol” (“mobile home”) yw unrhyw strwythur a ddyluniwyd neu a addaswyd i bobl fyw ynddo ac sy’n gallu cael ei symud o’r naill le i’r llall (pa un ai drwy ei dynnu neu drwy ei gludo ar gefn cerbyd modur neu ôl-gerbyd) ac unrhyw gerbyd modur a ddyluniwyd neu a addaswyd i bobl fyw ynddo, ond nid yw’n cynnwys—
(a)
pabell;
(b)
cerbydau rheilffyrdd sydd am y tro ar gledrau sy’n ffurfio rhan o system reilffyrdd;
(c)
awyren;
(d)
llestr;
ystyr “safle Sipsiwn a Theithwyr” (“Gypsy and Traveller site”) yw tir a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i osod cartrefi symudol arno sy’n rhoi llety i’r canlynol—
(a)
pobl sy’n arfer ffordd nomadig o fyw, beth bynnag fo’u hil neu eu tarddiad, gan gynnwys—
- (i)
pobl sydd, ar sail eu hanghenion addysg neu eu henaint eu hunain, neu anghenion addysg neu henaint eu teulu neu ddibynnydd, ac ar y sail honno yn unig, wedi rhoi’r gorau i deithio dros dro neu yn barhaol;
- (ii)
aelodau o grŵp trefnedig o siewmyn teithiol neu bersonau sy’n rhan o syrcasau teithiol (pa un a ydynt yn cyd-deithio mewn grŵp o’r fath ai peidio);
(b)
unrhyw bobl eraill sydd â thraddodiad diwylliannol o nomadiaeth neu o fyw mewn cartref symudol.
(5)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r adran hon er mwyn—
(a)
darparu bod, neu nad yw, math o lety, neu lety o ddisgrifiad penodol (gan gynnwys llety a ddarperir mewn mangre o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau), yn llety ymwelwyr;
(b)
amrywio’r disgrifiad o fath o lety.