RHAN 2COFRESTR O DDARPARWYR LLETY YMWELWYR
Pwerau ACC i wneud gwybodaeth yn ofynnol
13Cosbau am fethu â chydymffurfio â hysbysiad o dan adran 12
(1)
Mae person sy’n methu â chydymffurfio ag adran 12(3) yn agored i gosb o £100.
(2)
Os yw’r person yn methu â darparu’r wybodaeth neu’r ddogfen o dan sylw i ACC, ar y ffurf sy’n ofynnol, erbyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad cosb sy’n ymwneud â’r gosb o dan is-adran (1) (“y cyfnod cosbi cychwynnol”), mae’r person—
(a)
yn agored i gosb o £10 am bob diwrnod y mae’r methiant yn parhau ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw, hyd at a chan gynnwys y 30ain diwrnod, a
(b)
yn agored i gosb o £1000 am yr 31ain diwrnod y mae’r methiant yn parhau.
(3)
Wrth gyfrifo’r cyfnod cosbi cychwynnol, rhaid diystyru unrhyw ddiwrnod pan fo penderfyniad sy’n ymwneud â’r gosb o dan is-adran (1) yn destun—
(a)
adolygiad nad yw hysbysiad am ei gasgliadau wedi ei ddyroddi hyd yma, neu
(b)
apêl nad yw wedi ei dyfarnu’n derfynol neu wedi ei thynnu’n ôl hyd yma.