Rhagolygol
(1)Caiff ACC newid cofnod DLlY yn y gofrestr pan na fo hysbysiad wedi ei roi gan y DLlY o dan adran 9 os yw ACC yn ystyried bod y cofnod yn anghywir.
(2)Cyn y caiff ACC newid cofnod DLlY o dan is-adran (1), rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i’r DLlY hwnnw—
(a)yn pennu’r wybodaeth y mae ACC yn ystyried ei bod yn anghywir,
(b)yn nodi a yw ACC yn bwriadu—
(i)hepgor yr wybodaeth honno, neu
(ii)gwneud newidiadau eraill i’r cofnod, ac, yn yr achos hwnnw, rhaid i ACC bennu pa newidiadau y mae’n bwriadu eu gwneud,
(c)yn rhoi gwybod i’r DLlY y bydd ACC yn newid y gofrestr ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad oni bai—
(i)bod y DLlY, cyn y dyddiad hwnnw, yn rhoi’r hysbysiad sy’n ofynnol o dan adran 9(1)(a) neu (b), neu
(ii)bod ACC wedi ei fodloni nad oes angen newid y gofrestr, a
(d)yn nodi gwybodaeth am hawliau adolygu ac apelio.
(3)Rhaid i’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o dan is-adran (2)(c) fod o leiaf 30 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y dyroddir yr hysbysiad.
(4)Pan fo cofnod DLlY yn cael ei newid o dan yr adran hon, mae’r DLlY yn parhau i fod yn agored i gosbau o dan adran 10; ond mae’r DLlY i’w drin at ddibenion yr adran honno fel pe bai wedi rhoi’r hysbysiad sy’n ofynnol gan adran 9(1)(a) neu (b) o’r adeg y mae’r DLlY yn rhoi hysbysiad i ACC—
(a)os yw’r cofnod yn anghywir, sy’n darparu’r wybodaeth sy’n angenrheidiol i wneud cofnod y DLlY yn gywir, neu
(b)sy’n cadarnhau bod y cofnod yn gywir.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 67(2)