RHAN 2COFRESTR O DDARPARWYR LLETY YMWELWYR

Newid y gofrestr

10Cosbau am fethu â hysbysu ACC am newidiadau ac anghywirdebau

(1)

Mae DLlY sy’n methu â chydymffurfio ag adran 9(1) yn agored i gosb o £100.

(2)

Rhaid i hysbysiad cosb a ddyroddir i DLlY mewn cysylltiad â chosb y mae’r DLlY yn agored iddi o dan is-adran (1) bennu’r wybodaeth y mae ACC yn ystyried ei bod yn anghywir.

(3)

Os yw’r DLlY yn methu â rhoi i ACC yr hysbysiad sy’n ofynnol gan adran 9(1)(a) neu (b) mewn cysylltiad â’r wybodaeth a bennir yn yr hysbysiad cosb erbyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad cosb (“y cyfnod cosbi cychwynnol”), mae’r DLlY—

(a)

yn agored i gosb o £10 am bob diwrnod y mae’r methiant yn parhau ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw, hyd at a chan gynnwys y 30ain diwrnod, a

(b)

yn agored i gosb o £1000 am yr 31ain diwrnod y mae’r methiant yn parhau.

(4)

Wrth gyfrifo’r cyfnod cosbi cychwynnol, rhaid diystyru unrhyw ddiwrnod pan fo penderfyniad sy’n ymwneud â’r gosb o dan is-adran (1) yn destun—

(a)

adolygiad nad yw hysbysiad am ei gasgliadau wedi ei ddyroddi hyd yma, neu

(b)

apêl nad yw wedi ei dyfarnu’n derfynol neu wedi ei thynnu’n ôl hyd yma.

(5)

Nid yw’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â pherson pan fo natur yr wybodaeth y mae ACC yn ystyried ei bod yn anghywir yn golygu bod y person yn agored i gosb o dan—

(a)

adran 7 (cosbau am fethu â chofrestru mewn cysylltiad â mangre), neu

(b)

adran 15 (cosbau pan fo person yn methu â gwneud cais i gael ei ddileu o’r gofrestr).

(6)

Mae person—

(a)

sy’n peidio â bod yn DLlY, ond

(b)

a ddaeth yn agored i gosb o dan yr adran hon tra oedd y person yn DLlY

yn parhau i fod yn agored i’r gosb.