(1)Mae’r Rhan hon o’r Ddeddf hon yn cynnwys (yn ychwanegol at y trosolwg hwn) ddiffiniad o “llety ymwelwyr” ac o “darparwr llety ymwelwyr”.
(2)Mae Rhan 2 o’r Ddeddf hon yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdod Cyllid Cymru gadw cofrestr o ddarparwyr llety ymwelwyr.
(3)Mae Rhan 3 o’r Ddeddf hon yn rhoi’r pŵer i brif gynghorau yng Nghymru i gyflwyno yn eu hardaloedd ardoll ar arosiadau dros nos mewn llety ymwelwyr, ac yn rhoi swyddogaethau sy’n ymwneud â chasglu a rheoli’r ardoll i Awdurdod Cyllid Cymru.
(4)Mae Rhan 4 o’r Ddeddf hon—
(a)yn gwneud darpariaeth ynglŷn â chanllawiau ynghylch y Ddeddf hon a ddyroddir gan Weinidogion Cymru,
(b)yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i estyn y Ddeddf hon fel ei bod yn gymwys mewn perthynas â docfeydd ac angorfeydd a ddarperir ar gyfer llestrau,
(c)yn gwneud darpariaeth ar gyfer adolygiadau o weithrediad ac effaith y Ddeddf hon gan Weinidogion Cymru, ac
(d)yn cynnwys darpariaethau cyffredinol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 1 mewn grym ar 19.9.2025, gweler a. 67(1)