RHAN 1TROSOLWG O’R DDEDDF A THERMAU ALLWEDDOL A DDEFNYDDIR YN Y DDEDDF

Trosolwg

1Trosolwg o’r Ddeddf hon

(1)

Mae’r Rhan hon o’r Ddeddf hon yn cynnwys (yn ychwanegol at y trosolwg hwn) ddiffiniad o “llety ymwelwyr” ac o “darparwr llety ymwelwyr”.

(2)

Mae Rhan 2 o’r Ddeddf hon yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdod Cyllid Cymru gadw cofrestr o ddarparwyr llety ymwelwyr.

(3)

Mae Rhan 3 o’r Ddeddf hon yn rhoi’r pŵer i brif gynghorau yng Nghymru i gyflwyno yn eu hardaloedd ardoll ar arosiadau dros nos mewn llety ymwelwyr, ac yn rhoi swyddogaethau sy’n ymwneud â chasglu a rheoli’r ardoll i Awdurdod Cyllid Cymru.

(4)

Mae Rhan 4 o’r Ddeddf hon—

(a)

yn gwneud darpariaeth ynglŷn â chanllawiau ynghylch y Ddeddf hon a ddyroddir gan Weinidogion Cymru,

(b)

yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i estyn y Ddeddf hon fel ei bod yn gymwys mewn perthynas â docfeydd ac angorfeydd a ddarperir ar gyfer llestrau,

(c)

yn gwneud darpariaeth ar gyfer adolygiadau o weithrediad ac effaith y Ddeddf hon gan Weinidogion Cymru, ac

(d)

yn cynnwys darpariaethau cyffredinol.