RHAN 5CYFFREDINOL
Amrywiol
92Dod i rym
(1)
Daw’r Rhan hon i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.
(2)
Daw adrannau 1, 2 a 5 ac Atodlen 1 i rym ar 1 Ebrill 2027.
(3)
Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.
(4)
Caiff gorchymyn o dan is-adran (3) wneud darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.