RHAN 5CYFFREDINOL
Dehongli
89Diffiniadau sy’n ymwneud â’r Goron
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion y Ddeddf hon.
(2)
Ystyr “tir y Goron” yw tir y ceir buddiant y Goron neu fuddiant Dugiaeth ynddo.
(3)
Ystyr “buddiant y Goron” yw ystâd neu fuddiant—
(a)
sy’n perthyn i’w Fawrhydi yn hawl y Goron neu yn hawl Ei ystadau preifat, neu
(b)
sy’n perthyn i adran o’r llywodraeth neu sy’n cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth ar gyfer Ei Fawrhydi at ddibenion adran o’r llywodraeth.
(4)
Ystyr “buddiant Dugiaeth” yw ystâd neu fuddiant—
(a)
sy’n perthyn i’w Fawrhydi yn hawl Dugiaeth Caerhirfryn, neu
(b)
sy’n perthyn i Ddugiaeth Cernyw.
(5)
Ystyr “buddiant preifat” mewn perthynas â thir y Goron, yw ystâd neu fuddiant nad yw’n fuddiant y Goron nac yn fuddiant Dugiaeth.
(6)
Ystyr “awdurdod priodol y Goron”—
(a)
mewn perthynas â thir y Goron, yw—
(i)
yn achos tir sy’n perthyn i’w Fawrhydi yn hawl y Goron ac sy’n ffurfio rhan o ystad y Goron, Comisiynwyr Ystad y Goron;
(ii)
mewn perthynas ag unrhyw dir arall sy’n perthyn i’w Fawrhydi yn hawl y Goron, yr adran o’r llywodraeth sy’n rheoli’r tir;
(iii)
mewn perthynas â thir sy’n perthyn i’w Fawrhydi yn hawl ei ystadau preifat, person a benodir gan Ei Fawrhydi yn ysgrifenedig o dan y Llofnod Brenhinol neu, os na wneir unrhyw benodiad o’r fath, Gweinidogion Cymru;
(iv)
mewn perthynas â thir sy’n perthyn i’w Fawrhydi yn hawl Dugiaeth Caerhirfryn, Canghellor y Ddugiaeth;
(v)
mewn perthynas â thir sy’n perthyn i Ddugiaeth Cernyw, person a benodir gan Ddug Cernyw, neu gan y person sy’n meddu ar y Ddugiaeth am y tro;
(vi)
yn achos tir sy’n perthyn i adran o’r llywodraeth neu sy’n cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth ar gyfer Ei Fawrhydi at ddibenion adran o’r llywodraeth, yr adran;
(b)
mewn unrhyw achos arall, y Trysorlys.
(7)
Mae “y Goron” i’w drin fel pe bai’n cynnwys Comisiwn y Senedd.
(8)
Rhaid atgyfeirio unrhyw gwestiwn sy’n codi ynghylch pwy yw awdurdod priodol y Goron mewn perthynas ag unrhyw dir i’r Trysorlys, y mae ei benderfyniad yn derfynol.
(9)
Yn yr adran hon—
(a)
mae cyfeiriadau at ystadau preifat Ei Fawrhydi i’w darllen yn unol ag adran 1 o Ddeddf Ystadau Preifat y Goron 1862 (p. 37);
(b)
mae cyfeiriadau at adran o’r llywodraeth yn cynnwys Gweinidog y Goron a Chomisiwn y Senedd (a gweler adran 85 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), sy’n darparu bod cyfeiriadau at adran o’r llywodraeth yn cynnwys Gweinidogion Cymru, y Prif Weinidog a’r Cwnsler Cyffredinol).