RHAN 5CYFFREDINOL
Dehongli
88Ystyr “perchennog”
Yn y Ddeddf hon, ystyr “perchennog”, mewn perthynas ag unrhyw dir, yw’r person sydd ag ystad gyfreithiol yn y tir—
(a)
sydd naill ai yr ystad rydd-ddaliadol neu’n denantiaeth am gyfnod penodol sydd ag o leiaf blwyddyn ar ôl ac nad yw’n gyfnod morgais, a
(b)
nad yw mewn rifersiwn sy’n ddibynnol ar derfynu tenantiaeth o’r fath.