RHAN 5CYFFREDINOL

Dehongli

87Ystyr “bygythiad i les pobl”

At ddibenion y Ddeddf hon, mae bygythiad i les pobl yn bodoli pan fo posibilrwydd o—

(a)

marwolaeth pobl,

(b)

salwch neu anaf difrifol i bobl,

(c)

difrod difrifol i eiddo,

(d)

tarfu difrifol ar gyflenwad o fwyd, dŵr, ynni neu danwydd,

(e)

tarfu difrifol ar system gyfathrebu,

(f)

tarfu difrifol ar gyfleusterau ar gyfer trafnidiaeth, neu

(g)

tarfu difrifol ar wasanaethau sy’n ymwneud ag iechyd.