RHAN 5CYFFREDINOL
Achosion arbennig
84Tir Eglwys Loegr
(1)
Pan fo darpariaeth yn y Ddeddf hon, neu mewn rheoliadau a wneir odani, yn ei gwneud yn ofynnol neu’n awdurdodi rhoi hysbysiad neu ddogfen arall i berson gan ei fod yn meddiannu tir sy’n dir Eglwys Loegr, neu berson am ei fod yn berchennog ar ystad neu fuddiant mewn tir sy’n dir Eglwys Loegr, rhaid rhoi copi o’r ddogfen hefyd i’r Bwrdd Cyllid Esgobaethol priodol.
(2)
Rhaid i ddigollediad sy’n daladwy o dan adran 33 neu 50 i berson yn rhinwedd bod gan y person ystad rydd-ddaliadol mewn tir sy’n dir Eglwys Loegr (pan fo’r ystad wedi ei breinio mewn person heblaw’r Bwrdd Cyllid Esgobaethol priodol)—
(a)
cael ei dalu i’r Bwrdd Cyllid Esgobaethol priodol, a
(b)
cael ei gymhwyso gan y Bwrdd hwnnw at y dibenion y byddai enillion gwerthu’r tir drwy gytundeb yn gymwys iddynt o dan unrhyw ddeddfiad neu Fesur gan Eglwys Loegr sy’n awdurdodi, neu’n gwaredu enillion, gwerthiant o’r fath.
(3)
Pan fo tir Eglwys Loegr wedi ei freinio ym mheriglor bywoliaeth eglwysig sydd heb ddeiliad, mae’r tir i’w drin at ddibenion y Ddeddf hon fel pe bai wedi ei freinio yn y Bwrdd Cyllid Esgobaethol priodol.
(4)
Mewn achos—
(a)
pan na fo is-adran (3) yn gymwys, a
(b)
pan fo person yn atebol i dalu swm o dan y Ddeddf hon, naill ai fel perchennog neu fel cyfrannydd, yn rhinwedd bod yr ystad rydd-ddaliadol mewn tir yn eiddo i fywoliaeth eglwysig a freinir yn y person,
caiff y Bwrdd Cyllid Esgobaethol priodol gymhwyso unrhyw symiau a ddelir ganddo wrth gyflawni’r cyfan neu unrhyw ran o’r rhwymedigaeth honno.
(5)
Yn yr adran hon—
ystyr “Bwrdd Cyllid Esgobaethol priodol” (“appropriate Diocesan Board of Finance”), mewn perthynas ag unrhyw dir, yw’r Bwrdd Cyllid Esgobaethol ar gyfer yr esgobaeth y mae’r tir ynddi;
ystyr “tir Eglwys Loegr” (“Church of England land”) yw tir—
(a)
sy’n perthyn i fywoliaeth eglwysig,
(b)
sy’n eglwys neu’n ffurfio rhan o eglwys sy’n ddarostyngedig i awdurdodaeth esgob yn un o esgobaethau Eglwys Loegr neu safle eglwys o’r fath, neu
(c)
sy’n gladdfa neu’n ffurfio rhan o gladdfa sy’n ddarostyngedig i awdurdodaeth esgob o’r fath;
ystyr “Mesur gan Eglwys Loegr” (“Church Measure”) yw Mesur gan Gynulliad Eglwys Loegr neu gan Synod Cyffredinol Eglwys Loegr;
ystyr “bywoliaeth eglwysig” (“ecclesiastical benefice”) yw un o fywiolaethau eglwysig Eglwys Loegr.