RHAN 5CYFFREDINOL

Achosion arbennig

83Codi arian mewn achosion penodol i gwrdd â gwariant

(1)

Mae’r adran hon yn cael effaith mewn cysylltiad â chodi arian mewn achosion penodol ar gyfer talu—

(a)

treuliau yr eir iddynt wrth gynnal gweithrediadau yn unol â hysbysiad o dan adran 35 ac wrth gynnal unrhyw waith adfer canlyniadol;

(b)

digollediad sy’n adenilladwy o dan adran 50 ac sydd i’w briodoli i unrhyw weithrediadau neu waith adfer o’r fath;

(c)

symiau sy’n adenilladwy o dan adran 51 neu 53.

(2)

Yn yr adran hon, ystyr “gwariant perthnasol” yw unrhyw dreuliau, unrhyw ddigollediad neu unrhyw symiau y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(a) i (c).

(3)

Mae’r dibenion a awdurdodir ar gyfer cymhwyso arian cyfalaf gan adran 73 o Ddeddf Tir Setledig 1925 (p. 18) yn cynnwys talu unrhyw wariant perthnasol.

(4)

Mae’r dibenion a awdurdodir ar gyfer codi arian drwy forgais gan adran 71 o Ddeddf Tir Setledig 1925 yn cynnwys talu unrhyw wariant perthnasol.

(5)

Mae’r dibenion a awdurdodir gan adran 25 o Ddeddf Dugiaeth Caerhirfryn 1817 (p. 97) ar gyfer cymhwyso arian sy’n codi drwy’r gwerthiant hwnnw o flwydd-daliadau sy’n sefyll yn enw neu i gyfrif Dugiaeth Caerhirfryn a grybwyllir yn yr adran honno yn cynnwys talu unrhyw wariant perthnasol.

(6)

Mae’r dibenion a awdurdodir gan adran 8 o Ddeddf Rheoli Dugiaeth Cernyw 1863 (p. 49) ar gyfer blaendalu rhannau o’r symiau gros hynny a grybwyllir yn yr adran honno yn cynnwys talu unrhyw wariant perthnasol.