RHAN 5CYFFREDINOL

Rhoi hysbysiadau a dogfennau eraill

81Darpariaeth ychwanegol ynghylch rhoi hysbysiadau etc. i bersonau sy’n meddiannu tir neu sydd â buddiant mewn tir

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys (yn ogystal ag adran 80) pan fo darpariaeth yn y Ddeddf hon, neu mewn rheoliadau a wneir odani, yn ei gwneud yn ofynnol neu’n awdurdodi rhoi hysbysiad neu ddogfen arall—

(a)

i berson am fod ganddo ystad neu fuddiant mewn tir, neu

(b)

i berson am ei fod yn meddiannu tir,

(pa un a yw’r ddarpariaeth yn defnyddio’r ymadrodd “rhoi” neu unrhyw ymadrodd arall).

(2)

Pan—

(a)

bo’r ddogfen i’w rhoi i berson am fod ganddo ystad neu fuddiant mewn tir, a

(b)

nad oes modd darganfod enw’r person ar ôl gwneud ymholiadau rhesymol,

caniateir cyfeirio’r ddogfen at y person fel “y perchennog” ar y tir (y mae rhaid ei ddisgrifio).

(3)

Pan fo’r ddogfen i’w rhoi i berson am ei fod yn feddiannydd ar dir, caniateir ei chyfeirio at y person yn ôl ei enw neu fel “y meddiannydd” y tir (y mae rhaid ei disgrifio).

(4)

Mae is-adran (5) yn gymwys—

(a)

pan—

(i)

bo dogfen i’w rhoi i berson am fod ganddo ystad neu fuddiant mewn tir, a

(ii)

nad oes modd darganfod cyfeiriad priodol y person (o fewn ystyr adran 80) ar ôl gwneud ymholiadau rhesymol;

(b)

pan fo dogfen i’w rhoi i berson am ei fod yn feddiannydd ar dir.

(5)

Mae’r ddogfen i’w thrin fel pe bai wedi ei rhoi yn briodol os caiff ei chyfeirio at y person, ei marcio’n glir fel cyfathrebiad pwysig sy’n effeithio ar dir y person, ac—

(a)

yn cael ei hanfon i’r tir drwy’r post ac nad yw’n cael ei dychwelyd fel dogfen nas danfonwyd,

(b)

yn cael ei rhoi â llaw i berson sy’n preswylio neu’n cael ei gyflogi ar y tir, neu yr ymddengys ei fod yn preswylio neu’n cael ei gyflogi ar y tir, neu

(c)

wedi ei gosod yn sownd, mewn lle gweladwy, wrth wrthrych ar y tir.

(6)

Nid yw’r adran hon yn gymwys pan fo darpariaeth yn y Ddeddf hon, neu mewn rheoliadau a wneir odani, yn ei gwneud yn ofynnol neu’n awdurdodi rhoi hysbysiad neu ddogfen arall i’r Goron.