(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo darpariaeth yn y Ddeddf hon, neu reoliadau a wneir odani, yn ei gwneud yn ofynnol neu’n awdurdodi rhoi hysbysiad neu ddogfen arall i berson (pa un a yw’r ddarpariaeth yn defnyddio’r ymadrodd “rhoi” neu unrhyw ymadrodd arall).
(2)Caniateir rhoi’r ddogfen drwy—
(a)ei rhoi i’r person â llaw,
(b)ei gadael yng nghyfeiriad priodol y person,
(c)ei hanfon drwy’r post at y person yn y cyfeiriad hwnnw, neu
(d)ei hanfon drwy e-bost i gyfeiriad e-bost y person.
(3)Rhoddir dogfen yn unol ag is-adran (2)(a)—
(a)os yw’r person yn gorff corfforedig, drwy ei rhoi â llaw i un o swyddogion y corff,
(b)os yw’r person yn bartneriaeth, drwy ei rhoi â llaw i bartner, neu
(c)os yw’r person yn gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth, drwy ei rhoi â llaw i aelod o gorff llywodraethu’r gymdeithas.
(4)At ddibenion is-adran (2)(b) ac (c), cyfeiriad priodol person yw—
(a)yn achos corff corfforedig, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff yn y Deyrnas Unedig;
(b)yn achos partneriaeth, cyfeiriad prif swyddfa’r bartneriaeth yn y Deyrnas Unedig;
(c)mewn unrhyw achos arall, cyfeiriad hysbys diwethaf y person (pa un ai preswylfa’r person neu fan lle y mae’r person yn cynnal busnes neu wedi ei gyflogi) neu, os yw’r person wedi darparu cyfeiriad lle caniateir rhoi dogfennau o dan y Ddeddf hon, y cyfeiriad hwnnw.
(5)At ddibenion is-adran (2)(d), cyfeiriad e-bost person yw—
(a)unrhyw gyfeiriad e-bost a gyhoeddir am y tro gan y person hwnnw fel cyfeiriad ar gyfer cysylltu â’r person hwnnw, neu
(b)os nad oes cyfeiriad a gyhoeddir o’r fath, unrhyw gyfeiriad e-bost y mae’r person wedi cytuno i gael dogfennau ynddo neu wedi cytuno i gael y ddogfen ynddo.
(6)Yn yr adran hon—
ystyr “swyddog” (“officer”) mewn perthynas â chorff corfforedig, yw unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff;
ystyr “wedi cytuno” (“agreed”) yw wedi cytuno yn ysgrifenedig.
(7)Nid yw adrannau 231 a 233 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) yn gymwys i ddogfennau sydd i’w rhoi i awdurdod lleol neu gan awdurdod lleol o dan y Ddeddf hon.
(8)Nid yw’r adran hon yn gymwys pan fo darpariaeth yn y Ddeddf hon, neu mewn rheoliadau a wneir odani, yn ei gwneud yn ofynnol neu’n awdurdodi rhoi hysbysiad neu ddogfen arall i’r Goron.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 80 mewn grym ar 12.9.2025, gweler a. 92(1)