RHAN 2ASESU, COFRESTRU A MONITRO TOMENNI NAS DEFNYDDIR
PENNOD 1COFRESTR TOMENNI NAS DEFNYDDIR
Y gofrestr
8Cynnwys y gofrestr
(1)
Rhaid i gofnod yn y gofrestr ar gyfer tomen nas defnyddir gynnwys—
(a)
map sy’n dangos ardal y domen, a
(b)
yr wybodaeth a ddisgrifir yn is-adran (2).
(2)
Yr wybodaeth yw—
(a)
enw neu enwau cyffredin y domen (os oes un neu rai);
(b)
lleoliad y domen;
(c)
dynodydd unigryw y mae’r Awdurdod wedi ei roi i’r domen;
(d)
categori’r domen (gweler Pennod 4);
(e)
dyddiad yr arolygiad diweddaraf o’r domen (os bu un);
(f)
unrhyw wybodaeth ychwanegol a bennir drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
(3)
Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Awdurdod cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (2)(f).
(4)
Ni chaniateir newid y map sy’n dangos ardal tomen nas defnyddir na newid categori tomen ond yn unol â Phennod 5.