RHAN 5CYFFREDINOL

Rheoliadau

78Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth drosiannol etc.

(1)

Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n briodol at ddibenion y Ddeddf hon, o ganlyniad iddi, neu er mwyn rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth ynddi, cânt drwy reoliadau wneud—

(a)

darpariaeth atodol, darpariaeth ddeilliadol neu ddarpariaeth ganlyniadol;

(b)

darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.

(2)

Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) addasu unrhyw ddeddfiad (pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir, a chan gynnwys y Ddeddf hon).

(3)

Yn is-adran (2), mae “addasu” yn cynnwys diwygio, dirymu a diddymu.