RHAN 4DARPARIAETH ATODOL
Amrywiol
75Diwygio Deddf Mwyngloddiau a Chwareli (Tomenni) 1969
(1)
Mae Deddf Mwyngloddiau a Chwareli (Tomenni) 1969 (p. 10) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
Ym mhennawd Rhan 2 (atal perygl i’r cyhoedd o domenni nas defnyddir), ar ôl “tips” mewnosoder “: England and Scotland”.
(3)
Yn adran 11 (awdurdodau lleol sydd â swyddogaethau o dan Ran 2)—
(a)
yn y pennawd, ar ôl “local authorities” mewnosoder “in England and Scotland”;
(b)
yn is-adran (1), ar ôl “local authorities” mewnosoder “in England and Scotland”;
(c)
yn is-adran (3), hepgorer paragraff (aa).
(4)
Yn adran 36 (dehongli Rhan 2)—
(a)
yn is-adran (1), yn y diffiniad o “Ministers”, hepgorer “, the Secretary of State for Wales”;
(b)
yn is-adran (4), hepgorer paragraff (b).