RHAN 4DARPARIAETH ATODOL

Amrywiol

73Darparu gwasanaethau gweinyddol, technegol neu broffesiynol

(1)

Caiff yr Awdurdod ddarparu gwasanaethau gweinyddol, proffesiynol neu dechnegol i unrhyw awdurdod Cymreig datganoledig (o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” yn adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)).

(2)

Caiff yr Awdurdod godi ffi am ddarparu gwasanaeth o dan is-adran (1).