RHAN 4DARPARIAETH ATODOL

Amrywiol

72Cyhoeddi

Pan fo’r Ddeddf hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r Awdurdod gyhoeddi unrhyw beth—

(a)

rhaid iddo gael ei gyhoeddi ar y wefan, neu gyfleuster electronig arall, a sefydlir ac a gynhelir o dan adran 71, a

(b)

caniateir ei gyhoeddi hefyd mewn unrhyw fodd arall y mae’r Awdurdod yn ystyried ei fod yn briodol.