RHAN 4DARPARIAETH ATODOL
Pwerau mynediad
70Mynd ar dir y Goron
(1)
Ni chaiff person awdurdodedig fynd ar dir y Goron o dan adran 65 oni bai—
(a)
bod awdurdod priodol y Goron wedi rhoi caniatâd i’r person awdurdodedig wneud hynny, neu
(b)
bod yr Awdurdod yn credu—
(i)
bod tomen nas defnyddir yn ansefydlog, a
(ii)
bod ansefydlogrwydd y domen yn peri bygythiad i les pobl sy’n golygu bod angen mynd ar y tir ar unwaith at ddiben a grybwyllir yn adran 65(1)(c) neu (e).
(2)
Yn yr amgylchiadau a grybwyllir yn is-adran (1)(b), caiff y person awdurdodedig—
(a)
mynnu mynediad i’r tir fel mater o hawl, a
(b)
mynnu fel mater o hawl—
(i)
mynd â phersonau eraill, cyfarpar neu ddeunydd ar y tir, a
(ii)
gadael cyfarpar neu ddeunydd ar y tir.
(3)
Ond ni chaiff y person awdurdodedig fynnu mynediad fel mater o hawl i unrhyw ran o dir y Goron sy’n dir preswyl.
(4)
Os yw person awdurdodedig yn mynd ar dir y Goron o dan yr amgylchiadau a grybwyllir yn is-adran (1)(b) heb ganiatâd awdurdod priodol y Goron, rhaid i’r Awdurdod hysbysu awdurdod priodol y Goron cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
(5)
Rhaid i berson awdurdodedig—
(a)
os gofynnir iddo wneud hynny gan neu ar ran unrhyw berchennog ar dir y Goron neu unrhyw feddiannydd ar dir y Goron, ddangos tystiolaeth o awdurdodiad y person a datgan diben mynd ar y tir cyn mynd ar y tir o dan adran 65;
(b)
os yw’n ymadael â’r tir ar adeg pan nad oes perchennog neu feddiannydd yn bresennol, ei adael wedi ei ddiogelu yr un mor effeithiol rhag tresmaswyr ag yr oedd pan aeth y person arno.
(6)
Yn yr adran hon, mae i “tir preswyl” yr un ystyr ag yn adran 66(7).