RHAN 2ASESU, COFRESTRU A MONITRO TOMENNI NAS DEFNYDDIR

PENNOD 1COFRESTR TOMENNI NAS DEFNYDDIR

Y gofrestr

7Y meini prawf ar gyfer cofrestru

At ddibenion y Rhan hon, y meini prawf ar gyfer cofrestru tomen nas defnyddir yw—

(a)

bod y domen yn bygwth lles pobl oherwydd ansefydlogrwydd, neu

(b)

y gallai beri bygythiad o’r fath pe bai ansefydlogrwydd.