RHAN 4DARPARIAETH ATODOL
Pwerau mynediad
69Cosb am rwystro mynd ar dir
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo pŵer i fynd ar dir yn cael ei roi i berson gan adran 65(1) neu drwy warant a ddyroddir o dan adran 67(1).
(2)
Mae person sy’n rhwystro’n fwriadol arfer y pŵer yn cyflawni trosedd.
(3)
Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (2) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
(4)
Nid yw torri is-adran (2) gan y Goron yn gwneud y Goron yn atebol o ran cyfraith trosedd (ond gweler adran 28(3) o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4) ynghylch atebolrwydd personau sy’n gwasanaethu’r Goron).