RHAN 4DARPARIAETH ATODOL

Pwerau mynediad

67Gwarant i fynd ar dir

(1)

Caiff ynad heddwch, ar gais a wneir gan yr Awdurdod, ddyroddi gwarant sy’n rhoi pŵer i berson awdurdodedig i fynd ar dir, drwy rym os oes angen.

(2)

Ni chaiff ynad heddwch ddyroddi gwarant ond os yw wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig ar lw—

(a)

bod sail resymol dros fynd ar y tir at ddiben a grybwyllir yn adran 65(1), a

(b)

y bodlonir un neu ragor o’r amodau yn is-adran (3).

(3)

Yr amodau yw—

(a)

nad yw wedi bod yn bosibl rhoi hysbysiad o dan adran 66 i bob meddiannydd ar y tir, er gwaethaf ymdrechion rhesymol i wneud hynny;

(b)

bod mynediad i’r tir wedi ei wrthod neu ei rwystro neu y disgwylir yn rhesymol iddo gael ei wrthod neu ei rwystro;

(c)

ei bod yn angenrheidiol i’r person awdurdodedig fynd ar dir preswyl.

(4)

At ddibenion is-adran (3)(b), mae mynediad i dir i’w drin fel pe bai wedi ei wrthod os na cheir ateb i gais neu archiad i fynd ar y tir o fewn cyfnod rhesymol.

(5)

Os yw ynad heddwch wedi ei fodloni, ar sail gwybodaeth ysgrifenedig ar lw, ei bod yn angenrheidiol i’r person awdurdodedig, at ddiben a grybwyllir yn adran 65(1)—

(a)

mynd ag unrhyw bersonau eraill, unrhyw gyfarpar neu unrhyw ddeunydd ar y tir, neu

(b)

gadael cyfarpar neu ddeunydd ar y tir,

caiff y warant hefyd roi pŵer i’r person awdurdodedig i wneud y pethau hynny; ac os yw’r warant yn gwneud hynny, rhaid iddo gynnwys manylion y personau, y cyfarpar neu’r deunydd.

(6)

Caiff gwarant a ddyroddir o dan is-adran (1) roi pŵer i’r person awdurdodedig—

(a)

i gynnal arolygiadau ac archwiliadau (gan gynnwys profion ac arolygon) ar y tir;

(b)

i gymryd mesuriadau a thynnu lluniau a gwneud recordiadau;

(c)

i gymryd samplau a’u symud ymaith o’r tir.

(7)

Mae gwarant a ddyroddir o dan yr adran hon yn parhau i fod mewn grym hyd nes y cyflawnir y diben y’i dyroddir ar ei gyfer.

(8)

Yn yr adran hon—

nid yw “tir” (“land”)yn cynnwys tir y Goron;

mae i “tir preswyl” (“residential land”) yr ystyr a roddir gan adran 66(7).