RHAN 4DARPARIAETH ATODOL
Pwerau mynediad
66Mynediad i dir heb warant
(1)
Ni chaiff person awdurdodedig, o dan adran 65, fynnu mynediad fel mater o hawl i unrhyw dir a feddiennir oni bai bod o leiaf 48 awr o rybudd o’r mynediad arfaethedig wedi ei roi i bob meddiannydd ar y tir.
(2)
Ni chaiff person awdurdodedig, o dan adran 65, fynnu fel mater o hawl—
(a)
mynd â phersonau eraill, cyfarpar neu ddeunydd ar dir a feddiennir, neu
(b)
gadael cyfarpar neu ddeunydd ar y tir,
oni bai bod o leiaf 48 awr o rybudd o’r bwriad i wneud hynny (gan gynnwys manylion y personau, y cyfarpar neu’r deunydd) wedi ei roi i bob meddiannydd ar y tir.
(3)
Nid yw is-adrannau (1) a (2) yn gymwys os yw’r Awdurdod yn credu—
(a)
bod tomen nas defnyddir yn ansefydlog, a
(b)
bod ansefydlogrwydd y domen yn peri bygythiad i les pobl sy’n golygu bod angen mynd ar y tir ar unwaith at ddiben a grybwyllir yn adran 65(1)(c) neu (e).
(4)
Ni chaiff person awdurdodedig, o dan adran 65, fynnu mynediad i dir preswyl fel mater o hawl.
(5)
Caiff person awdurdodedig fynnu mynediad fel mater o hawl i dir o dan adran 65—
(a)
dim ond ar adeg resymol, oni bai bod yr amod yn is-adran (3) wedi ei fodloni;
(b)
ar unrhyw adeg, os bodlonir yr amod hwnnw.
(6)
Rhaid i berson awdurdodedig—
(a)
os gofynnir iddo wneud hynny gan neu ar ran unrhyw berchennog ar y tir neu unrhyw feddiannydd ar y tir, ddangos tystiolaeth o awdurdodiad y person a datgan diben mynd ar y tir cyn mynd arno o dan adran 65;
(b)
os yw’n ymadael â’r tir ar adeg pan nad oes perchennog neu feddiannydd yn bresennol, ei adael wedi ei ddiogelu yr un mor effeithiol rhag tresmaswyr ag yr oedd pan aeth y person arno.
(7)
Yn yr adran hon—
nid yw “tir” (“land”) yn cynnwys tir y Goron;
ystyr “tir preswyl” (“residential land”) yw cymaint o unrhyw dir ag sy’n cynnwys—
(a)
annedd neu ran o annedd,
(b)
gardd, iard, garej breifat neu dŷ allan sy’n cael ei defnyddio neu ei ddefnyddio a’i mwynhau neu ei fwynhau yn gyfan gwbl neu’n bennaf gydag annedd, neu
(c)
yn achos adeilad sy’n cynnwys un neu ragor o anheddau, unrhyw ran o’r adeilad a ddefnyddir ac a fwynheir yn gyfan gwbl neu’n bennaf gyda’r anheddau hynny neu unrhyw un neu ragor ohonynt.
(8)
Gweler adran 70 ar gyfer darpariaeth ynghylch mynd ar dir y Goron o dan adran 65.