RHAN 4DARPARIAETH ATODOL
Pwerau mynediad
65Pŵer i fynd ar dir
(1)
Caiff person awdurdodedig fynd ar dir at ddiben gwneud unrhyw un neu ragor o’r pethau a ganlyn ar ran yr Awdurdod—
(a)
cynnal asesiad rhagarweiniol neu asesiad llawn o dan Ran 2;
(b)
cynnal arolygiad neu weithgaredd monitro arall mewn perthynas â thomen a gofrestrwyd o dan y Rhan honno;
(c)
ymchwilio i weld pa un a oes angen i weithrediadau fod yn ofynnol neu gael eu cynnal o dan Ran 3;
(d)
ymchwilio i weld pa un a yw gweithrediadau yn cael eu cynnal mewn cydymffurfedd â hysbysiad a roddir o dan adran 35 o’r Rhan honno;
(e)
cynnal gweithrediadau a gwaith adfer canlyniadol o dan adran 44 o’r Rhan honno;
(f)
archwilio unrhyw weithgareddau eraill sy’n cael eu cynnal ar y tir lle gallai’r gweithgareddau hynny effeithio ar sefydlogrwydd tomen nas defnyddir.
(2)
Caiff person awdurdodedig, at y dibenion a grybwyllir yn is-adran (1)—
(a)
mynd ag unrhyw bersonau eraill, unrhyw gyfarpar ac unrhyw ddeunydd ar y tir fel y bo’n angenrheidiol;
(b)
gadael cyfarpar a deunydd ar y tir.
(3)
Caiff person awdurdodedig, at y dibenion a grybwyllir yn is-adran (1)—
(a)
cynnal arolygiadau ac archwiliadau (gan gynnwys profion ac arolygon) ar y tir;
(b)
cymryd mesuriadau a thynnu lluniau a gwneud recordiadau;
(c)
cymryd samplau a’u symud ymaith o’r tir.
(4)
Yn y Rhan hon, ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan yr Awdurdod i weithredu ar ei ran.