RHAN 4DARPARIAETH ATODOL

Rhannu gwybodaeth

64Cosbau mewn cysylltiad â hysbysiadau sy’n gofyn am wybodaeth

(1)

Mae person y mae’n ofynnol iddo roi gwybodaeth o dan adran 61 neu 63 yn cyflawni trosedd os yw’r person yn methu, heb esgus rhesymol, â rhoi’r wybodaeth.

(2)

Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (1) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(3)

Mae person y mae’n ofynnol iddo roi gwybodaeth o dan adran 61 neu 63 yn cyflawni trosedd os yw’r person, gan honni ei fod yn cydymffurfio â’r hysbysiad—

(a)

yn rhoi gwybodaeth sy’n anwir neu yn gamarweiniol mewn modd perthnasol, a

(b)

naill ai—

(i)

yn gwybod bod yr wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol, neu

(ii)

yn ddi-hid ynghylch pa un a yw’r wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol.

(4)

Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (3) yn agored ar euogfarn ddiannod, neu ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy.

(5)

Nid yw torri is-adran (1) neu (3) gan y Goron yn gwneud y Goron yn atebol o ran cyfraith trosedd (ond gweler adran 28(3) o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4) ynghylch atebolrwydd personau sy’n gwasanaethu’r Goron).