Rhagolygol

RHAN 4LL+CDARPARIAETH ATODOL

Rhannu gwybodaethLL+C

63Gwybodaeth i adnabod neu asesu bygythiadau i sefydlogrwydd tomen nas defnyddir etc.LL+C

(1)Caiff yr Awdurdod roi hysbysiad (“hysbysiad gwybodaeth”) i berson sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person roi gwybodaeth i’r Awdurdod o ddisgrifiad a bennir yn yr hysbysiad, os yw’r Awdurdod—

(a)yn ystyried y bydd gwybodaeth o’r disgrifiad hwnnw yn ei alluogi neu ei gynorthwyo i adnabod neu asesu bygythiad i sefydlogrwydd tomen nas defnyddir, neu i asesu sefydlogrwydd tomen nas defnyddir, a

(b)bod ganddo reswm i gredu bod yr wybodaeth ym meddiant y person neu o dan reolaeth y person.

(2)Caiff hysbysiad gwybodaeth ei gwneud yn ofynnol i berson roi’r wybodaeth mewn ffordd ac ar ffurf a bennir yn yr hysbysiad.

(3)Caiff hysbysiad gwybodaeth ei gwneud yn ofynnol i berson roi’r wybodaeth o fewn—

(a)20 o ddiwrnodau gwaith sy’n dechrau â’r diwrnod gwaith cyntaf drannoeth y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad, neu

(b)unrhyw gyfnod hwy a bennir yn yr hysbysiad neu a gytunir gan yr Awdurdod.

(4)Nid yw’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol nac yn caniatáu i wybodaeth gael ei rhoi yn groes i unrhyw waharddiad a osodir gan ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.

(5)Ni chaiff yr Awdurdod roi hysbysiad gwybodaeth i awdurdod cyhoeddus perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 63 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)