RHAN 4DARPARIAETH ATODOL

Rhannu gwybodaeth

63Gwybodaeth i adnabod neu asesu bygythiadau i sefydlogrwydd tomen nas defnyddir etc.

(1)

Caiff yr Awdurdod roi hysbysiad (“hysbysiad gwybodaeth”) i berson sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person roi gwybodaeth i’r Awdurdod o ddisgrifiad a bennir yn yr hysbysiad, os yw’r Awdurdod—

(a)

yn ystyried y bydd gwybodaeth o’r disgrifiad hwnnw yn ei alluogi neu ei gynorthwyo i adnabod neu asesu bygythiad i sefydlogrwydd tomen nas defnyddir, neu i asesu sefydlogrwydd tomen nas defnyddir, a

(b)

bod ganddo reswm i gredu bod yr wybodaeth ym meddiant y person neu o dan reolaeth y person.

(2)

Caiff hysbysiad gwybodaeth ei gwneud yn ofynnol i berson roi’r wybodaeth mewn ffordd ac ar ffurf a bennir yn yr hysbysiad.

(3)

Caiff hysbysiad gwybodaeth ei gwneud yn ofynnol i berson roi’r wybodaeth o fewn—

(a)

20 o ddiwrnodau gwaith sy’n dechrau â’r diwrnod gwaith cyntaf drannoeth y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad, neu

(b)

unrhyw gyfnod hwy a bennir yn yr hysbysiad neu a gytunir gan yr Awdurdod.

(4)

Nid yw’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol nac yn caniatáu i wybodaeth gael ei rhoi yn groes i unrhyw waharddiad a osodir gan ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.

(5)

Ni chaiff yr Awdurdod roi hysbysiad gwybodaeth i awdurdod cyhoeddus perthnasol.