RHAN 4DARPARIAETH ATODOL
Rhannu gwybodaeth
60Dyletswyddau’r Awdurdod ac awdurdodau cyhoeddus perthnasol i rannu gwybodaeth
(1)
Os yw awdurdod cyhoeddus perthnasol, wrth arfer ei swyddogaethau—
(a)
yn dod yn ymwybodol o fygythiad i sefydlogrwydd tomen nas defnyddir, neu dystiolaeth o ansefydlogrwydd tomen nas defnyddir, a
(b)
yn ystyried y dylid rhannu’r wybodaeth â’r Awdurdod er mwyn osgoi neu leihau bygythiad i les pobl,
rhaid i’r awdurdod cyhoeddus roi’r wybodaeth i’r Awdurdod cyn gynted ag y bo’n ymarferol.
(2)
Os daw’r Awdurdod, wrth arfer ei swyddogaethau, yn ymwybodol o rywbeth y mae’n ystyried y dylid ei ddwyn i sylw awdurdod cyhoeddus perthnasol at ddiben arfer swyddogaethau’r awdurdod cyhoeddus, rhaid iddo roi’r wybodaeth i’r awdurdod cyhoeddus cyn gynted ag y bo’n ymarferol.
(3)
Nid yw’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol nac yn caniatáu i wybodaeth gael ei rhoi yn groes i unrhyw waharddiad a osodir gan ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.