RHAN 2ASESU, COFRESTRU A MONITRO TOMENNI NAS DEFNYDDIR

PENNOD 1COFRESTR TOMENNI NAS DEFNYDDIR

Y gofrestr

6Dyletswydd i lunio a chadw cofrestr

(1)

Rhaid i’r Awdurdod lunio a chadw cofrestr electronig o domenni nas defnyddir y mae’r Awdurdod yn penderfynu—

(a)

eu bod yn bygwth lles pobl oherwydd ansefydlogrwydd, neu

(b)

y gallant beri bygythiad o’r fath pe bai ansefydlogrwydd.

(2)

Mae Pennod 3 yn nodi’r broses ar gyfer cynnwys tomenni nas defnyddir yn y gofrestr neu eu dileu o’r gofrestr.

(3)

Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at “y gofrestr” yn gyfeiriadau at y gofrestr y cyfeirir ati yn is-adran (1).