Rhagolygol
(1)Rhaid i awdurdod cyhoeddus perthnasol roi unrhyw wybodaeth i’r Awdurdod y mae’r Awdurdod yn gofyn amdani at ddiben arfer swyddogaethau a roddir gan neu o dan y Ddeddf hon.
(2)Nid yw’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol nac yn caniatáu i wybodaeth gael ei rhoi yn groes i unrhyw waharddiad a osodir gan ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.
(3)Os yw awdurdod cyhoeddus perthnasol yn penderfynu peidio â chydymffurfio a chais o dan is-adran (1), rhaid iddo roi ei resymau ysgrifenedig dros y penderfyniad i’r Awdurdod.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 59 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)