RHAN 4DARPARIAETH ATODOL
Rhannu gwybodaeth
59Pŵer yr Awdurdod i’w gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus perthnasol roi gwybodaeth
(1)
Rhaid i awdurdod cyhoeddus perthnasol roi unrhyw wybodaeth i’r Awdurdod y mae’r Awdurdod yn gofyn amdani at ddiben arfer swyddogaethau a roddir gan neu o dan y Ddeddf hon.
(2)
Nid yw’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol nac yn caniatáu i wybodaeth gael ei rhoi yn groes i unrhyw waharddiad a osodir gan ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.
(3)
Os yw awdurdod cyhoeddus perthnasol yn penderfynu peidio â chydymffurfio a chais o dan is-adran (1), rhaid iddo roi ei resymau ysgrifenedig dros y penderfyniad i’r Awdurdod.