RHAN 4DARPARIAETH ATODOL

Cynlluniau rheoli ar gyfer tomenni cofrestredig

57Cynlluniau rheoli

(1)

Rhaid i’r Awdurdod lunio a chadw cynllun rheoli ar gyfer pob tomen nas defnyddir yn y gofrestr sy’n domen categori 1 neu’n domen categori 2.

(2)

Rhaid i’r cynllun rheoli ar gyfer tomen nas defnyddir y mae is-adran (1) yn gymwys iddi gael ei lunio cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r domen gael ei chofnodi gyntaf yn y gofrestr fel tomen categori 1 neu domen categori 2.

(3)

Caiff yr Awdurdod ar unrhyw adeg lunio a chadw cynllun rheoli ar gyfer tomen nas defnyddir yn y gofrestr sy’n domen categori 3 neu’n domen categori 4.

(4)

Rhaid i gynllun rheoli nodi—

(a)

sut y mae’r Awdurdod yn bwriadu arfer ei swyddogaethau o dan y Ddeddf hon mewn perthynas â’r domen (gan gynnwys manylion unrhyw wybodaeth neu gyngor y mae’n bwriadu ei rhoi neu ei roi i berchnogion tir neu feddianwyr ar dir o dan adran 3);

(b)

gwybodaeth y mae’r Awdurdod yn ystyried y gallai fod yn berthnasol mewn argyfwng sy’n ymwneud â’r domen;

(c)

gwybodaeth am rolau a chyfrifoldebau’r Awdurdod ac awdurdodau cyhoeddus eraill mewn argyfwng o’r fath;

(d)

sut y mae’r Awdurdod yn bwriadu cydweithredu â’r awdurdodau cyhoeddus hynny mewn argyfwng o’r fath.

(5)

Caiff cynllun rheoli gynnwys unrhyw wybodaeth arall y mae’r Awdurdod yn ystyried ei bod yn briodol.