RHAN 3YMDRIN AG ANSEFYDLOGRWYDD TOMEN A BYGYTHIADAU I SEFYDLOGRWYDD TOMEN
PENNOD 3TALIADAU MEWN CYSYLLTIAD Â GWEITHREDIADAU
54Yr hawl i apelio yn erbyn archiad yr Awdurdod
(1)
Caiff person y rhoddir archiad iddo o dan adran 53(4) wneud cais i’r llys am orchymyn yn amrywio neu ganslo’r archiad.
(2)
Rhaid gwneud cais o dan yr adran hon o fewn 6 wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir yr archiad i’r person.
(3)
Pan fo’r archiad yn cael ei wneud mewn achos sy’n dod o fewn adran 53(1), y seiliau y caniateir gwneud cais arnynt yw—
(a)
bod swm y treuliau yr aed iddynt gan yr Awdurdod wrth gynnal yr ymchwiliadau neu’r gweithrediadau yn fwy nag a oedd yn rhesymol;
(b)
bod swm y treuliau yr aed iddynt gan yr Awdurdod wrth gynnal gwaith adfer yn fwy nag a oedd yn rhesymol angenrheidiol i adfer y tir o ganlyniad i’r gweithrediadau;
(c)
nad oedd unrhyw sail resymol dros gredu, ar yr adeg y dechreuwyd y gweithrediadau, bod y gweithrediadau’n angenrheidiol er mwyn osgoi neu leihau’r bygythiad i les pobl a bennir yn yr hysbysiad a roddwyd i berchennog y tir o dan adran 46 ynghylch y gweithrediadau;
(d)
bod y gweithrediadau a gynhaliwyd gan yr Awdurdod yn fwy helaeth nag oedd yn angenrheidiol er mwyn osgoi neu leihau’r bygythiad i les pobl a bennir yn yr hysbysiad a roddwyd i berchennog y tir o dan adran 46 ynghylch y gweithrediadau;
(e)
bod swm y digollediad a dalwyd neu sy’n daladwy i berson yn unol â hawliad o dan adran 50 yn fwy nag y byddai wedi bod fel arall, oherwydd bod yr amser a gymerodd yr Awdurdod i gynnal yr ymchwiliadau neu’r gweithrediadau neu unrhyw waith adfer canlyniadol yn afresymol o hir;
(f)
bod swm y digollediad a dalwyd neu sy’n daladwy i berson yn unol â hawliad o dan adran 50 yn fwy nag sy’n angenrheidiol i ddigolledu’r person o dan yr adran honno;
(g)
yn achos archiad a roddir i gyfrannydd, bod y swm a hawlir yn yr archiad yn fwy na’r ganran benodedig o’r cyfanswm sy’n adenilladwy gan yr Awdurdod o dan adran 53(1);
(h)
yn achos archiad a roddir i berchennog y tir y cynhaliwyd y gweithrediadau arno, nad yw’r swm a hawlir yn yr archiad yn rhoi ystyriaeth briodol i swm y mae gan yr Awdurdod hawlogaeth i’w adennill oddi wrth gyfrannydd.
(4)
Pan fo’r archiad yn cael ei wneud mewn achos sy’n dod o fewn adran 53(2), y seiliau y caniateir gwneud cais arnynt yw—
(a)
bod swm y treuliau yr aed iddynt gan yr Awdurdod wrth gynnal yr ymchwiliadau yn fwy nag a oedd yn rhesymol;
(b)
bod y digollediad a dalwyd neu sy’n daladwy i berson yn unol â hawliad o dan adran 50 yn fwy nag y byddai wedi bod fel arall, oherwydd bod yr amser a gymerodd yr Awdurdod i gynnal yr ymchwiliadau yn afresymol o hir;
(c)
bod swm y digollediad a dalwyd neu sy’n daladwy i berson yn unol â hawliad o dan adran 50 yn fwy nag sy’n angenrheidiol i ddigolledu’r person o dan yr adran honno;
(d)
yn achos archiad a roddir i gyfrannydd, bod y swm a hawlir yn yr archiad yn fwy na’r ganran benodedig o’r cyfanswm sy’n adenilladwy gan yr Awdurdod o dan adran 53(2);
(e)
yn achos archiad a roddir i berchennog y tir y cynhaliwyd y gweithrediadau arno, nad yw’r swm a hawlir yn yr archiad yn rhoi ystyriaeth briodol i swm y mae gan yr Awdurdod hawlogaeth i’w adennill oddi wrth gyfrannydd.
(5)
Os yw’r llys, ar gais o dan yr adran hon, wedi ei fodloni bod sail (neu unrhyw un neu ragor o seiliau) y cais yn gymwys, caiff y llys wneud gorchymyn—
(a)
yn canslo’r archiad y gwnaed y cais mewn cysylltiad ag ef, neu
(b)
yn gostwng y swm sy’n adenilladwy oddi wrth y person y rhoddwyd yr archiad iddo.