Rhagolygol
(1)Pan fo’r Awdurdod wedi cynnal gweithrediadau ar dir o dan adran 44, mae ganddo hawlogaeth i adennill oddi wrth berchennog y tir—
(a)y treuliau yr aed iddynt yn rhesymol gan yr Awdurdod wrth gynnal unrhyw ymchwiliadau o dan adran 55 a arweiniodd at gynnal y gweithrediadau,
(b)y treuliau yr aed iddynt yn rhesymol gan yr Awdurdod wrth gynnal y gweithrediadau ac unrhyw waith adfer a oedd yn rhesymol angenrheidiol o ganlyniad i gynnal y gweithrediadau, ac
(c)swm unrhyw ddigollediad o dan adran 50 sy’n adenilladwy (neu a adenillwyd) oddi wrth yr Awdurdod yn unol â hawliad o dan yr adran honno.
(2)Pan fo’r Awdurdod wedi cynnal ymchwiliadau o dan adran 55 a arweiniodd at roi hysbysiad o dan adran 35 sy’n ei gwneud yn ofynnol i berchennog ar dir gynnal gweithrediadau ar y tir, mae gan yr Awdurdod hawlogaeth i adennill oddi wrth y perchennog ar y tir—
(a)y treuliau yr aed iddynt yn rhesymol gan yr Awdurdod wrth gynnal yr ymchwiliadau, a
(b)swm unrhyw ddigollediad o dan adran 50 sy’n adenilladwy (neu a adenillwyd) oddi wrth yr Awdurdod yn unol â hawliad o dan yr adran honno.
(3)Pan fo gorchymyn cyfrannu wedi ei wneud mewn perthynas â’r treuliau y byddai’n rhaid i berchennog y tir eu hysgwyddo fel arall o dan is-adran (1) neu (2)—
(a)mae gan yr Awdurdod hawlogaeth i adennill oddi wrth y cyfrannydd y ganran benodedig o’r swm sy’n adenilladwy oddi wrth berchennog y tir o dan yr is-adran berthnasol, a
(b)mae’r swm y caiff yr Awdurdod ei adennill oddi wrth berchennog y tir o dan yr is-adran berthnasol yn cael ei ostwng gan y swm y mae gan yr Awdurdod hawlogaeth i’w adennill oddi wrth y cyfrannydd o dan baragraff (a).
(4)Nid yw unrhyw swm yn adenilladwy o dan yr adran hon oddi wrth berchennog ar dir neu gyfrannydd oni bai bod yr Awdurdod yn rhoi archiad i’r person hwnnw am y swm hwnnw.
(5)Rhaid i archiad o dan is-adran (4) bennu—
(a)y swm a hawlir gan yr Awdurdod oddi wrth y person;
(b)os rhoddir yr archiad i gyfrannydd, y cyfanswm yr hawlir y cyfraniad mewn cysylltiad ag ef;
(c)os rhoddir yr archiad i berchennog y tir, y symiau (os oes rhai) y mae gan yr Awdurdod hawlogaeth i’w hadennill oddi unrhyw gyfrannydd neu gyfranwyr;
(d)ym mhob achos, y symiau ar wahân sy’n ffurfio’r cyfanswm sy’n adenilladwy gan yr Awdurdod, a nodir drwy gyfeirio at baragraffau (a) i (c) o is-adran (1) neu, yn ôl y digwydd, baragraffau (a) a (b) o is-adran (2).
(6)Mae archiad o dan is-adran (4) yn derfynol ac yn bendant, oni bai bod cais i amrywio neu ganslo’r archiad yn cael ei wneud o dan adran 54.
(7)Mae gan yr Awdurdod hawlogaeth i adennill llog ar unrhyw swm sy’n adenilladwy o dan yr adran hon, ar gyfradd a bennir gan yr Awdurdod, o’r dyddiad y rhoddir yr archiad am y swm i’r person hyd nes y telir y swm yn llawn.
(8)Caniateir i unrhyw swm sy’n adenilladwy o dan yr adran hon, os yw’r Awdurdod yn cytuno, gael ei dalu mewn rhandaliadau y cytunwyd arnynt gan yr Awdurdod.
(9)At ddibenion yr adran hon—
(a)perchennog y tir—
(i)mewn achos sy’n dod o fewn is-adran (1), yw’r person a oedd yn berchennog pan ddechreuodd yr Awdurdod gynnal y gweithrediadau y cyfeirir atynt yn yr is-adran honno;
(ii)mewn achos sy’n dod o fewn is-adran (2), yw’r person y rhoddwyd yr hysbysiad y cyfeirir ato yn yr is-adran honno iddo;
(b)mae ymchwiliadau i’w trin fel pe baent wedi arwain at gynnal gweithrediadau o dan adran 44 os dechreuodd yr Awdurdod gynnal y gweithrediadau o fewn 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl cwblhau’r ymchwiliadau;
(c)mae ymchwiliadau i’w trin fel pe baent wedi arwain at roi hysbysiad o dan adran 35 i berchennog ar dir os rhoddodd yr Awdurdod hysbysiad o dan yr adran honno i berchennog y tir o fewn 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl cwblhau’r ymchwiliadau.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 53 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)