RHAN 3YMDRIN AG ANSEFYDLOGRWYDD TOMEN A BYGYTHIADAU I SEFYDLOGRWYDD TOMEN
PENNOD 3TALIADAU MEWN CYSYLLTIAD Â GWEITHREDIADAU
52Hawl cyfrannydd i apelio yn erbyn archiad perchennog
(1)
Caiff cyfrannydd y rhoddir archiad iddo o dan adran 51(4) wneud cais i’r llys am orchymyn sy’n amrywio’r archiad.
(2)
Rhaid gwneud cais o dan yr adran hon o fewn 6 wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir yr archiad i’r cyfrannydd.
(3)
Caniateir gwneud cais o dan yr adran hon ar un neu ragor o’r seiliau a ganlyn—
(a)
bod swm y treuliau yr aed iddynt gan berchennog y tir wrth gynnal y gweithrediadau yn fwy nag a oedd yn rhesymol;
(b)
bod swm y treuliau yr aed iddynt gan berchennog y tir wrth gynnal gwaith adfer yn fwy nag a oedd yn rhesymol angenrheidiol i adfer y tir o ganlyniad i’r gweithrediadau;
(c)
bod swm y digollediad a dalwyd neu sy’n daladwy i berson yn unol â hawliad o dan adran 50 yn fwy nag y byddai wedi bod fel arall, oherwydd bod y perchennog ar y tir wedi cymryd amser afresymol o hir i gynnal y gweithrediadau neu’r gwaith adfer canlyniadol;
(d)
bod swm y digollediad a dalwyd neu sy’n daladwy i berson yn unol â hawliad o dan adran 50 yn fwy nag sy’n angenrheidiol i ddigolledu’r person o dan yr adran honno;
(e)
bod y swm a bennir yn yr archiad fel y swm y cyfeirir ato yn adran 51(3)(c) yn fwy na’r digollediad y gallai perchennog y tir fod wedi ei hawlio o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn y paragraff hwnnw;
(f)
bod y swm a hawlir yn yr archiad yn fwy na’r ganran benodedig o’r cyfanswm a bennir o dan adran 51(3).
(4)
Os yw’r llys wedi ei fodloni bod y sail (neu unrhyw un neu ragor o’r seiliau) ar gyfer y cais yn wedi ei phrofi neu eu profi, caiff y llys wneud gorchymyn sy’n lleihau’r swm y gellir ei adennill gan berchennog y tir oddi wrth y cyfrannydd.