RHAN 3YMDRIN AG ANSEFYDLOGRWYDD TOMEN A BYGYTHIADAU I SEFYDLOGRWYDD TOMEN
PENNOD 3TALIADAU MEWN CYSYLLTIAD Â GWEITHREDIADAU
51Hawl perchennog i adennill treuliau oddi wrth gyfrannydd
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo—
(a)
perchennog ar dir wedi cynnal gweithrediadau mewn cydymffurfedd â hysbysiad o dan adran 35, a
(b)
gorchymyn cyfrannu wedi ei wneud mewn perthynas â’r gweithrediadau hynny.
(2)
Mae gan berchennog y tir hawlogaeth i adennill oddi wrth y cyfrannydd y ganran benodedig o’r cyfanswm a bennir yn unol ag is-adran (3) (ond gweler is-adran (7)).
(3)
At ddibenion yr adran hon, y cyfanswm yw swm cyfanredol—
(a)
y treuliau yr eir iddynt yn rhesymol gan berchennog y tir wrth gynnal y gweithrediadau ac unrhyw waith adfer sy’n rhesymol angenrheidiol o ganlyniad i gynnal y gweithrediadau hynny,
(b)
swm unrhyw ddigollediad sy’n adenilladwy (neu a adenillwyd) oddi wrth berchennog y tir o dan adran 50, ac
(c)
swm unrhyw ddigollediad o dan adran 50 y gallai perchennog y tir fod wedi gwneud hawliad o dan yr adran honno mewn cysylltiad ag ef pe bai’r gweithrediadau ac unrhyw waith adfer canlyniadol wedi cael eu cynnal gan yr Awdurdod.
(4)
Nid yw unrhyw gyfraniad yn adenilladwy o dan yr adran hon oni bai bod y perchennog yn rhoi archiad i’r cyfrannydd am y cyfraniad.
(5)
Rhaid i archiad o dan is-adran (4) bennu—
(a)
swm y cyfraniad;
(b)
y cyfanswm yr hawlir y cyfraniad mewn perthynas ag ef;
(c)
y symiau ar wahân sy’n ffurfio’r cyfanswm, a nodwyd drwy gyfeirio at baragraffau (a), (b) ac (c) o is-adran (3).
(6)
Mae archiad o dan is-adran (4) yn derfynol ac yn bendant, oni bai bod cais i amrywio’r archiad yn cael ei wneud o dan adran 52.
(7)
Pan fo perchennog y tir wedi cynnal gweithrediadau a bennir mewn hysbysiad o dan adran 35 a bod yr hysbysiad hwnnw yn cael ei ganslo gan yr Awdurdod o dan adran 42, mae’r adran hon ac adran 52 yn cael effaith gyda’r addasiadau yn Atodlen 3.