RHAN 3YMDRIN AG ANSEFYDLOGRWYDD TOMEN A BYGYTHIADAU I SEFYDLOGRWYDD TOMEN
PENNOD 3TALIADAU MEWN CYSYLLTIAD Â GWEITHREDIADAU
49Ystyr “gorchymyn cyfrannu”, “cyfrannydd” ac “y ganran benodedig”
Yn y Ddeddf hon—
ystyr “gorchymyn cyfrannu” (“contribution order”) yw gorchymyn o dan adran 48;
ystyr “cyfrannydd” (“contributory”) yw’r person y mae gorchymyn cyfrannu yn ymwneud ag ef;
ystyr “y ganran benodedig” (“the specified percentage”) , mewn perthynas â chyfrannydd, yw’r ganran a bennir, yn unol ag adran 48(8), yn y gorchymyn cyfrannu sy’n ymwneud â’r cyfrannydd.