Rhagolygol

RHAN 3LL+CYMDRIN AG ANSEFYDLOGRWYDD TOMEN A BYGYTHIADAU I SEFYDLOGRWYDD TOMEN

PENNOD 3LL+CTALIADAU MEWN CYSYLLTIAD Â GWEITHREDIADAU

48Gorchmynion cyfrannuLL+C

(1)Caiff y llys, ar gais a wneir o dan yr adran hon, orchymyn bod rhaid i un neu ragor o’r personau y cyfeirir atynt yn is-adran (2) gyfrannu tuag at y treuliau y byddai’n rhaid i berchennog ar dir eu hysgwyddo fel arall o ganlyniad i gynnal gweithrediadau a bennir mewn hysbysiad o dan adran 35 neu 46.

(2)Y personau yw—

(a)person yr oedd ganddo, heblaw fel morgeisai, ystad neu fuddiant yn y tir y mae’r domen nas defnyddir wedi ei lleoli arno—

(i)ar y diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad i’r perchennog, neu

(ii)ar unrhyw adeg yn y 12 mlynedd sy’n dod i ben yn union cyn y diwrnod hwnnw;

(b)person sydd, ar unrhyw adeg o fewn y cyfnod o 12 mlynedd a grybwyllir ym mharagraff (a), wedi defnyddio’r domen nas defnyddir i ddyddodi gwastraff o fwynglawdd neu chwarel;

(c)person sydd, ym marn y llys, ar unrhyw adeg o fewn y cyfnod o 12 mlynedd a grybwyllir ym mharagraff (a), wedi peri neu gyfrannu at yr angen am y gweithrediadau a bennir yn yr hysbysiad drwy—

(i)cynnal gweithrediadau eraill neu gyflawni unrhyw weithgaredd arall ar unrhyw dir, neu

(ii)methu â gwneud rhywbeth y gallai’r person yn rhesymol fod wedi ei wneud ar unrhyw dir i osgoi creu neu gyfrannu at yr angen am y gweithrediadau a bennir yn yr hysbysiad.

(3)Yn yr adran hon, ystyr “tomen nas defnyddir” yw’r domen nas defnyddir y rhoddwyd yr hysbysiad mewn cysylltiad â hi.

(4)Caiff cais o dan yr adran hon gael ei wneud gan—

(a)y perchennog ar dir y rhoddwyd yr hysbysiad iddo, a

(b)yn achos hysbysiad o dan adran 46, yr Awdurdod.

(5)Rhaid i berson sy’n gwneud cais o dan yr adran hon, ar yr un pryd, roi copi o’r cais i bob person y ceisir gorchymyn mewn perthynas ag ef.

(6)Rhaid i gais o dan yr adran hon gael ei wneud—

(a)pan fo’n ymwneud â hysbysiad o dan adran 35 ac nad oes cais yn cael ei wneud mewn cysylltiad â’r hysbysiad hwnnw o dan adran 38 (hawl i apelio yn erbyn hysbysiad), o fewn 3 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad;

(b)pan fo’n ymwneud â hysbysiad o dan adran 35 ac y gwneir cais mewn cysylltiad â’r hysbysiad hwnnw o dan adran 38, o fewn 3 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y cais ei dynnu yn ôl neu ei benderfynu;

(c)pan fo’n ymwneud â hysbysiad o dan adran 46, o fewn 3 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad.

(7)Wrth benderfynu pa un ai i wneud gorchymyn o dan yr adran hon, ac wrth bennu swm unrhyw gyfraniad, rhaid i’r llys roi sylw i’r holl amgylchiadau, ac yn benodol—

(a)i’r graddau y mae’n ymddangos i’r llys fod y person, drwy unrhyw weithred neu anweithred, wedi peri neu gyfrannu at yr angen am y gweithrediadau a bennir yn yr hysbysiad;

(b)i’r graddau y mae’r person wedi defnyddio’r domen nas defnyddir i ddyddodi gwastraff o fwynglawdd neu chwarel;

(c)i natur a maint unrhyw ystad neu fuddiant a oedd gan y person, ar y dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad, yn y tir yr oedd y gweithrediadau a bennir yn yr hysbysiad i’w cynnal arno;

(d)pan fu gan berson ystad neu fuddiant yn y tir hwnnw ond yr oedd wedi ei waredu cyn y dyddiad hwnnw, i ba un, a wnaeth y person hwnnw, yn marn y llys, y gwarediad hwnnw at y diben o osgoi unrhyw atebolrwydd (pa un ai o dan y Ddeddf hon neu fel arall) mewn cysylltiad â’r tir;

(e)i delerau unrhyw gyfamod, cytundeb neu ddarpariaeth statudol sy’n effeithio ar hawliau a rhwymedigaethau’r person a’r perchennog mewn perthynas â’r tir hwnnw.

(8)Rhaid i orchymyn o dan yr adran hon bennu swm y cyfraniad sydd i’w wneud gan y person y mae’n ymwneud ag ef fel canran (a all fod yn 100 y cant) o’r cyfanswm y gellir hawlio cyfraniad mewn cysylltiad ag ef o dan y Bennod hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 48 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 92(3)