RHAN 3YMDRIN AG ANSEFYDLOGRWYDD TOMEN A BYGYTHIADAU I SEFYDLOGRWYDD TOMEN
PENNOD 2GWEITHREDIADAU A GYNHELIR GAN YR AWDURDOD
47Dyletswydd i roi copïau o hysbysiad i bartïon â buddiant
(1)
Pan fo’r Awdurdod yn rhoi hysbysiad o dan adran 46 i berchennog ar dir, rhaid iddo hefyd roi copi o’r hysbysiad i unrhyw berson arall a chanddo fuddiant yn yr hysbysiad.
(2)
At ddibenion yr adran hon, mae’r personau a ganlyn (yn ychwanegol at y perchennog) yn bersonau a chanddynt fuddiant mewn hysbysiad—
(a)
person sy’n meddiannu tir y mae’r gweithrediadau a bennir yn yr hysbysiad i’w cynnal arno;
(b)
person a chanddo, hyd y gŵyr yr Awdurdod, ystad neu fuddiant yn y tir hwnnw heblaw fel morgeisai;
(c)
person—
(i)
a chanddo, hyd y gŵyr yr Awdurdod, heblaw fel morgeisai, ystâd neu fuddiant yn y tir y mae’r domen nas defnyddir wedi ei lleoli arno, neu
(ii)
y bu ganddo, hyd y gŵyr yr Awdurdod, heblaw fel morgeisai, ystâd neu fuddiant yn y tir hwnnw ar unrhyw adeg yn y 12 mlynedd cyn y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i’r perchennog;
(d)
person a chanddo, hyd y gŵyr yr Awdurdod, fuddiant yn (gan gynnwys hawl i gaffael) yr holl ddeunydd neu unrhyw ddeunydd sydd yn y domen nas defnyddir;
(e)
person sydd, hyd y gŵyr yr Awdurdod, ar unrhyw adeg o fewn y cyfnod o 12 mlynedd a grybwyllir ym mharagraff (c), wedi defnyddio’r domen nas defnyddir i ddyddodi gwastraff o fwynglawdd neu chwarel;
(f)
person y mae’r Awdurdod yn credu ei fod ar unrhyw adeg o fewn y cyfnod o 12 mlynedd a grybwyllir ym mharagraff (c), wedi peri neu gyfrannu at yr angen am y gweithrediadau a bennir yn yr hysbysiad drwy—
(i)
cynnal gweithrediadau eraill neu gyflawni unrhyw weithgaredd arall ar unrhyw dir, neu
(ii)
methu â gwneud rhywbeth y gallai’r person yn rhesymol fod wedi ei wneud ar unrhyw dir i osgoi creu neu gyfrannu at yr angen am y gweithrediadau a bennir yn yr hysbysiad.
(3)
Yn is-adran (2), ystyr “tomen nas defnyddir” yw’r domen nas defnyddir y rhoddir yr hysbysiad o dan adran 46 mewn cysylltiad â hi.
(4)
Rhaid i’r Awdurdod roi’r copïau sy’n ofynnol gan yr adran hon ar y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i’r perchennog neu cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl y diwrnod hwnnw.