RHAN 3YMDRIN AG ANSEFYDLOGRWYDD TOMEN A BYGYTHIADAU I SEFYDLOGRWYDD TOMEN
PENNOD 2GWEITHREDIADAU A GYNHELIR GAN YR AWDURDOD
46Dyletswydd i roi hysbysiad i berchnogion
(1)
Ni chaiff yr Awdurdod gynnal gweithrediadau ar dir o dan adran 44 oni bai ei fod wedi rhoi o leiaf 21 o ddiwrnodau clir o hysbysiad i berchennog y tir o’i fwriad i wneud hynny, ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-adran (3).
(2)
Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (1) bennu—
(a)
y domen nas defnyddir y rhoddir yr hysbysiad mewn cysylltiad â hi,
(b)
natur a maint y gweithrediadau arfaethedig ac unrhyw waith adfer canlyniadol arfaethedig, ac
(c)
y bygythiad i les pobl y bwriedir i’r gweithrediadau ei osgoi neu ei leihau.
(3)
Os yw’r Awdurdod yn ystyried bod angen cynnal gweithrediadau ar unwaith, caiff gynnal y gweithrediadau hynny—
(a)
heb roi hysbysiad o dan is-adran (1), neu
(b)
pan fo wedi rhoi hysbysiad o dan is-adran (1), cyn diwedd y cyfnod o 21 o ddiwrnodau a grybwyllir yn yr is-adran honno.
(4)
Pan fo’r Awdurdod yn dechrau gweithrediadau ar dir heb roi hysbysiad, rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, roi hysbysiad i berchennog y tir bod y gweithrediadau wedi dechrau.
(5)
Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (4) bennu—
(a)
y domen nas defnyddir y rhoddir yr hysbysiad mewn cysylltiad â hi,
(b)
natur a maint y gweithrediadau ac unrhyw waith adfer canlyniadol, ac
(c)
y bygythiad i les pobl y bwriedir i’r gweithrediadau ei osgoi neu ei leihau.