RHAN 3YMDRIN AG ANSEFYDLOGRWYDD TOMEN A BYGYTHIADAU I SEFYDLOGRWYDD TOMEN
PENNOD 2GWEITHREDIADAU A GYNHELIR GAN YR AWDURDOD
45Hawl yr Awdurdod i symud ymaith eiddo a’i waredu
(1)
Caiff yr Awdurdod, at ddiben cynnal gweithrediadau neu waith adfer canlyniadol ar dir o dan adran 44, symud ymaith a gwaredu unrhyw eiddo y mae person arall yn berchen arno sydd wedi ei leoli ar y tir.
(2)
Os yw’r Awdurdod yn gwaredu eiddo o dan is-adran (1) drwy ei werthu, rhaid i’r Awdurdod roi cyfrif i berchennog yr eiddo am yr enillion gwerthu.
(3)
Nid yw is-adran (2) yn atal yr Awdurdod rhag—
(a)
didynnu o’r enillion gwerthu unrhyw dreuliau yr eir iddynt yn rhesymol gan yr Awdurdod wrth werthu’r eiddo;
(b)
gosod yr enillion gwerthu, neu unrhyw ran o’r enillion hynny, yn erbyn unrhyw swm y mae gan yr Awdurdod hawlogaeth i’w adennill oddi wrth berchennog yr eiddo o dan Bennod 3.