RHAN 3YMDRIN AG ANSEFYDLOGRWYDD TOMEN A BYGYTHIADAU I SEFYDLOGRWYDD TOMEN
PENNOD 2GWEITHREDIADAU A GYNHELIR GAN YR AWDURDOD
44Pŵer yr Awdurdod i gynnal gweithrediadau
(1)
Caiff yr Awdurdod gynnal gweithrediadau ar unrhyw dir os yw’n ystyried ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny er mwyn cyflawni’r amcan a ganlyn, ond mae hyn yn ddarostyngedig i adran 46.
(2)
Yr amcan yw—
(a)
atal bygythiadau i sefydlogrwydd tomen nas defnyddir neu ymdrin â’r bygythiadau hynny, neu
(b)
sefydlogi tomen nas defnyddir neu atal tomen nas defnyddir rhag mynd yn fwy ansefydlog,
er mwyn osgoi neu leihau bygythiadau i les pobl.
(3)
Pan fo’r Awdurdod yn cynnal gweithrediadau o dan is-adran (1), caiff hefyd gynnal unrhyw waith adfer canlyniadol y mae’n ystyried ei fod yn rhesymol angenrheidiol.