RHAN 3YMDRIN AG ANSEFYDLOGRWYDD TOMEN A BYGYTHIADAU I SEFYDLOGRWYDD TOMEN

PENNOD 1EI GWNEUD YN OFYNNOL I BERCHENNOG AR DIR I GYNNAL GWEITHREDIADAU

43Ad-dalu treuliau’r perchennog ar ôl canslo hysbysiad

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)

pan fo’r Awdurdod wedi canslo hysbysiad a roddwyd o dan adran 35, a

(b)

pan fo perchennog ar dir y rhoddwyd yr hysbysiad iddo wedi mynd i wariant wrth gydymffurfio ag ef.

(2)

Caiff y perchennog wneud cais i Weinidogion Cymru i gael ad-daliad gan yr Awdurdod ar gyfer—

(a)

unrhyw wariant yr aed iddo gan y perchennog o ganlyniad i roi’r hysbysiad, a

(b)

unrhyw wariant yr aed iddo gan y perchennog y gellir ei briodoli i ganslo’r hysbysiad (pa un a ellir ei briodoli i adfer unrhyw dir, canslo unrhyw gontract neu fel arall).

(3)

Mae cais o dan yr adran hon i’w benderfynu gan berson a benodir gan Weinidogion Cymru (“person penodedig”).

(4)

Caiff y person penodedig gyfarwyddo’r Awdurdod i ad-dalu i’r perchennog y cyfan neu unrhyw ran o’r gwariant y cyfeirir ato yn is-adran (2).

(5)

Wrth benderfynu pa un ai i roi cyfarwyddyd o dan is-adran (4), neu i ba raddau y dylai fod yn ofynnol i’r Awdurdod ad-dalu’r perchennog, rhaid i’r person penodedig roi sylw i holl amgylchiadau’r achos ac, yn benodol, i—

(a)

y seiliau y rhoddodd yr awdurdod yr hysbysiad canslo arnynt o dan adran 42, a

(b)

pa un a yw’r Awdurdod wedi rhoi neu’n bwriadu rhoi hysbysiad pellach i’r perchennog o dan adran 35 neu’n bwriadu cynnal gweithrediadau ei hun o dan adran 44.

(6)

Rhaid i’r Awdurdod gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir o dan is-adran (4).

(7)

Rhaid i Weinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn sydd i’w dilyn wrth benderfynu ceisiadau o dan yr adran hon.

(8)

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth arall mewn cysylltiad â phenderfynu ceisiadau o dan yr adran hon.

(9)

Mae is-adrannau (3) i (5) o adran 40 yn gymwys mewn perthynas â rheoliadau o dan yr adran hon fel pe bai’r cyfeiriadau yn yr is-adrannau hynny at adran 40 yn gyfeiriadau at yr adran hon.